Arfer Dod Âr Blode

Arfer Dod Âr Blode

Mae’r casgliad yma o ganeuon wedi’w gwreiddio mewn dau gwm, Cwm Cynon a Chwm Nedd, ac mewn un tre’ ac un pentref, tref Aberdâr, yng Nghwm Cynon, lle gefais i fy ngeni, a lle treuliais 18 mlynedd cyntaf fy mywyd, a phentref Cwmnedd, cartref fy mam a’i theulu.

Pan ddechreuais i ganu nôl yn niwl 70au’r ganrif/mileniwm ddiwethaf, roedd fy nghaneuon yn naturiol yn ymwneud â’r ardal a’r bobl oedd o fy nghwmpas, ( Adferwch y Cymoedd, Cwm Cynon…) ond wrth i mi symud bant i’r coleg ac i fyd gwaith gan fyw mewn amryw ran o’r wlad; a chymryd diddordeb mewn materion byd eang, fe ehangodd testunau fy nghaneuon i gynnwys llefydd a phynciau gwahanol. O “Strydoedd Bangor” yn y glaw, i fwynwyr tlawd De America yn “Glas”, o’r trychineb amgylcheddol yn “Un Byd” a thrychineb 9/11 yn “Dal i Grio” i lawenydd ryddhau un o gewri’r ganrif yn “Mandela”.

Ac yna gyda’r cd diwethaf “Chwilio am America” fe ddilynais i Gymro Cymraeg, un William B James o Sir Benfro draw i’r Amerig, lle buodd farw gyda George Amstrong Custer ym mrwydr Little Big Horn, neu “Custers Last Stand” fel mae’n cael ei adnabod, er bod e’n fwy o chwalfa nag o Last Stand. Beth bynnag, os aeth William B James i’r gorllewin aeth aelodau o deulu ‘nhad (oedd yn dod o’r un ardal â William B) i’r dwyrain, ac i Gwm Cynon,  i weithio’n y glo. Daeth teulu mam lawr o Sir Frycheiniog i Gwm Nedd, eto i weithio’n y glo, a hynny dros dau can mlynedd yn ôl.

Felly, dyma benderfynu dweud hanes y cymeriadau yn fy nheulu i. Ond nid “hanes” sydd yma, ond cyfres o straeon byrion ar gân. Ro’wn i bron â galw’r cd yn “Arfer dod â Blode a Storïau eraill”, ond doedd dim digon o le ar y clawr ! a byddai’r geiriau wedi amharu’n ormodol ar waith eithriadol yr artist luniodd y clawr sef Teresa Jenellen. Ond dyna beth sydd yma, wyth o ganeuon sdorïol, yn cynnwys hanes go iawn cymeriadau amrywiol fy nheulu, gan gynnwys fi fy hun, storïau sy’n gyffredin i sawl teulu yn y cymoedd yn y De, a storïau ro’n i’n teimlo oedd werth eu cofnodi mewn cân.